16/11/2025
❕ Trigger warning: premature birth
Alfie’s journey began far sooner than anyone expected. Born at just 24 weeks, weighing only 1lb 2oz, he entered the world tiny, fragile, and fighting for every breath.
Mum, Sarah, shared:
"His early arrival was caused by pre-eclampsia, and instead of being cradled safely in the womb until March 2012, he was born on 24 November 2011 — almost four months too soon.
Alfie spent his first three months in Bristol NICU, then moved to Cardiff for life-saving operations, and later spent four more weeks in Prince Charles Hospital before he was finally strong enough to come home to Merthyr.
His early days were filled with unimaginable challenges. On 18 December 2011, he became desperately ill with sepsis. Doctors prepared us for the worst, and Alfie was given his last rites. But this tiny boy wasn’t ready to give up. Against all odds, he fought back — and from that moment on, he became known as ‘the little miracle baby.’
I really can’t thank the NHS enough and will forever be in their debt.”
Today, despite everything he endured at the very beginning of his life, Alfie stands tall as a happy, thriving teenager who loves school and fills the world around him with joy.
His story is a reminder of strength, hope, and the extraordinary power of a fighting spirit. 💜
❕ Rhybudd – genedigaeth gynamserol (premature birth)
Dechreuodd taith Alfie yn llawer cynharach nag oedd neb yn ei ddisgwyl. Cafodd ei eni ar ddim ond 24 wythnos, yn pwyso 1 pwys 2 owns, gan ddod i’r byd yn fach ac yn fregus, ond yn benderfynol o frwydro o’r eiliad gyntaf.
Mae ei fam, Sarah, yn rhannu ei phrofiad.
“Ganed Alfie’n gynnar oherwydd pre-eclampsia. Yn lle aros yn y groth tan fis Mawrth 2012, fe’i ganed ar 24ain o Dachwedd 2011 — bron i bedwar mis yn rhy gynnar.
Treuliodd Alfie ei dri mis cyntaf yn yr uned newyddenedigol ym Mryste. Yna cafodd ei drosglwyddo i Gaerdydd ar gyfer llawdriniaethau achub bywyd, ac yna treuliodd bedair wythnos arall yn Ysbyty’r Tywysog Siarl cyn iddo fod yn ddigon cryf i fynd adref i Ferthyr.
Roedd ei ddyddiau cynnar yn llawn o heriau na ellir eu dychmygu. Ar y 18fed o Ragfyr 2011 bu’n ddifrifol wael gyda sepsis. Roedd y meddygon wedi paratoi’r teulu ar gyfer y gwaethaf, ac fe roddwyd ei gysegriadau olaf iddo. Ond ni ildiodd Alfie. Yn erbyn pob disgwyliad, fe frwydrodd yn ôl — ac o’r eiliad honno ymlaen, cafodd ei adnabod fel ‘y babi bach gwyrthiol’.
Alla i byth ddiolch digon i’r GIG ac fe fyddai wastad yn ddyledus iddyn nhw.”
Heddiw, er gwaethaf popeth a wynebodd ar ddechrau ei fywyd, mae Alfie’n fachgen hapus, llawn bywyd, sy’n mwynhau’r ysgol ac yn dod â llawenydd i bawb sydd o’i gwmpas.
Mae ei stori’n dangos pa mor gryf a pha mor gobeithiol y gall bywyd fod. 💜