24/12/2025
Sylwch ar y newidiadau canlynol i'n horiau agor dros dymor yr ŵyl ar gyfer gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod (SDUC) Canolfan Gofal Integredig Aberteifi a gwasanaeth cerdded i mewn dan arweiniad nyrsys Ysbyty Dinbych-y-pysgod.
Gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod (SDUC) - Canolfan Gofal Integredig Aberteifi (SA43 1JX)
• Ar gau: Dydd Nadolig (25 Rhagfyr), Dydd San Steffan (26 Rhagfyr) a Dydd Calan (1 Ionawr)
• Ar agor yn lle hynny: Dydd Sadwrn 27 Rhag a Dydd Sul 28 Rhag 9.00am - 4.30pm
• Oriau arferol: Dydd Llun - Dydd Gwener 8.00am - 6.00pm.
Cynghorir cleifion i ffonio i siarad â nyrs brysbennu SDUC cyn mynychu 01239 807019.
Gwasanaeth cerdded i mewn dan arweiniad nyrsys - Ysbyty Dinbych-y-pysgod
• Ar gau: Dydd Nadolig (25 Rhagfyr), Dydd San Steffan (26 Rhagfyr) a Dydd Calan (1 Ionawr)
• Oriau arferol: Dydd Llun - Dydd Gwener 10.00am - 5.00pm
Mae ein hunedau mân anafiadau yn ysbytai Bronglais, Glangwili, y Tywysog Philip a Llwynhelyg ar agor bob dydd. Am oriau agor a chyfarwyddiadau ewch i https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/ysbytai-a-chanolfannau/unedau-man-anafiadau/
Diolch am eich dealltwriaeth, ac rydym yn dymuno Nadolig diogel a hapus i bawb.
Os oes angen cymorth meddygol arnoch ac nad ydych chi'n siŵr ble i fynd, ewch i 111.wales.nhs.uk neu ffoniwch 111.