12/12/2025
Rydym yn gofyn i bob claf, ymwelydd ac aelod o staff wisgo masg wyneb mewn rhai rhannau o'n hysbytai yng Ngogledd Cymru.
Dylai unrhyw un sy'n mynd i Adrannau Achosion Brys neu leoliadau derbyn, asesu a brysbennu eraill wisgo masg wyneb gwrth-hylif oni bai eu bod wedi'u heithrio oherwydd cyflwr iechyd. Darperir masgiau wrth y drws ffrynt.
Rydym hefyd yn gofyn i'r cyhoedd ein helpu i gyfyngu ar ledaeniad firysau'r gaeaf ac atal salwch drwy:
➡️ Osgoi ymweld ag anwyliaid yn yr ysbyty os oes gennych beswch, annwyd, dolur gwddf, neu dymheredd uchel. Rhaid i unrhyw un sydd â symptomau sy'n cynnwys chwydu neu ddolur rhydd aros o leiaf 48 awr ar ôl i'w symptomau ddod i ben cyn ymweld ag un o'n hysbytai.
➡️ Gwneud yn siŵr eich bod yn cael brechlyn ffliw blynyddol y GIG, os ydych yn gymwys ar ei gyfer, i helpu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed rhag salwch difrifol, a lleihau lledaeniad y firws yn y gymuned.
➡️ Rheoli symptomau ysgafn a chymedrol y ffliw neu firysau gaeaf eraill yn ddiogel gartref, a cheisio osgoi ei drosglwyddo i eraill. Mae cyngor a meddyginiaethau ar gael gan fferyllfeydd cymunedol lleol, neu GIG 111 Cymru. Os ydych chi'n profi symptomau difrifol neu'n cael trafferth anadlu, ewch i Adran Achosion Brys.
➡️ Golchi eich dwylo neu ddefnyddio diheintydd dwylo yn rheolaidd, a chyn mynd i mewn i un o'n wardiau neu leoliadau clinigol.
➡️ Osgoi eistedd ar welyau cleifion, neu ddefnyddio toiledau cleifion. Gofynnwch i'n staff ble gallwch ddod o hyd i'r toiled ymwelwyr agosaf.
➡️ Gorchuddio'ch ceg os ydych chi'n tisian neu'n pesychu. Defnyddio hances a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael ei gwared mewn bin ac yn golchi'ch dwylo.
Gadewch i ni gydweithio i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau y gaeaf hwn. Diolch ymlaen llaw am eich cefnogaeth.
Darllenwch ragor: https://bipbc.gig.cymru/newyddion/2025/helpwch-i-gadw-pawb-yn-ddiogel-gwisgwch-fasg-wyneb-yn-ein-hysbytai/