Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Bwrdd Iechyd Hywel Dda Yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i gymunedau ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. In English www.facebook.com/hywelddahealthboard

Mae Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.

A oes gennych diabetes Math 2?
06/01/2026

A oes gennych diabetes Math 2?

🫶🎁🎁
06/01/2026

🫶🎁🎁

Diweddariad 6/1/2026 - rydym yn parhau i weithio o dan bwysau eithriadol. Diolch am ddilyn ein cyngor ar sut y gallwch e...
05/01/2026

Diweddariad 6/1/2026 - rydym yn parhau i weithio o dan bwysau eithriadol. Diolch am ddilyn ein cyngor ar sut y gallwch ein helpu ni i'ch helpu chi (gweler isod).

RHANNWCH OGYDD: Mae ein Hadrannau Achosion Brys (A&E) ar draws pob safle, ac yn arbennig yn ysbytai Glangwili a Llwynhelyg, yn parhau i fod o dan bwysau sylweddol heddiw (dydd Llun, 5 Ionawr 2026).

Helpwch ni i’n helpu chi – ewch am y gofal cywir yn y lle cywir.

GIG 111 Cymru yw eich cam cyntaf os ydych chi’n teimlo’n sâl ac yn ansicr ble i fynd i gael cymorth. Caiff y gwasanaeth ei redeg gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol hyfforddedig a all roi cyngor arbenigol a’ch tywys i’r gofal cywir.

🌐 Ewch i 111.wales.nhs.uk
📞 Ffoniwch 111
🚑 Os yw’n argyfwng difrifol neu sy’n peryglu bywyd, ffoniwch 999 bob amser

Am gymorth iechyd meddwl 24/7 ffoniwch GIG 111 a dewiswch opsiwn 2.

Mynychwch Adran Achosion Brys dim ond os oes gennych salwch sy’n peryglu bywyd neu anaf difrifol, mae ambell wasanaeth all eich helpu. Ewch i https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/ysbytai-a-chanolfannau/unedau-man-anafiadau am fwy o wybodaeth.

Gall llawer o fferyllfeydd cymunedol hefyd ddarparu gwasanaethau cerdded i mewn, anhwylderau cyffredin neu frysbennu a thrin heb apwyntiad. Gallwch ddarganfod mwy yma: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa

Os oes gennych chi berthynas neu anwylyn yn yr ysbyty sy’n ddigon iach i fynd adref, ond sy’n aros i gael ei ryddhau gyda gofal-cartref a chymorth iechyd cymunedol, efallai y gallwch chi eu helpu i gyrraedd adref yn gynt os ydych chi a’ch teulu mewn sefyllfa i'w cefnogi gartref.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses a’r canllawiau rhyddhau o’r ysbyty yma: https://biphdd.gig.cymru/gwybodaeth-i-gleifion/cleifion-mewnol-ac-allanol/gwybodaeth-i-gleifion-mewnol

DIWEDDARIAD: Fflebotomi (Profion gwaed) yn Dafen, Llanelli. Noder, os gwelwch yn dda, oherwydd amodau peryglus a rhewlly...
05/01/2026

DIWEDDARIAD: Fflebotomi (Profion gwaed) yn Dafen, Llanelli.

Noder, os gwelwch yn dda, oherwydd amodau peryglus a rhewllyd ar y safle, mae'r ganolfan profi gwaed yn Dafen, Llanelli, ar gau tan 1yp, Dydd Mawrth, 6 Ionawr 2026. Mae'n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra y mae hyn yn ei achosi.

Mae ein tîm yn cysylltu â'r holl gleifion sydd ag apwyntiad heddiw i aildrefnu. Os oes gennych apwyntiad ar gyfer prawf gwaed heddiw ond heb glywed gennym ni eto, peidiwch â theithio i Dafen. Os hoffech aildrefnu eich apwyntiad am ddiwrnod arall, gallwch wneud hynny ar-lein yma: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/profion-gwaed/

Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth. Cymerwch ofal yn yr eira a’r rhew.

Mae ein timau'n gweithio'n galed i ateb eich galwadau ar ein switsfyrddau. Ond, mae’r tywydd gaeafol yn golygu bod llawe...
05/01/2026

Mae ein timau'n gweithio'n galed i ateb eich galwadau ar ein switsfyrddau. Ond, mae’r tywydd gaeafol yn golygu bod llawer ohonoch yn cysylltu â ni i wirio eich apwyntiadau a gwyddom fod yna lawer ohonoch yn aros i ni ateb eich galwad.

Rydym yn ymddiheuro am yr oedi, byddwn yn ateb eich galwad cyn gynted â phosibl. Os oes gennych y rif cyswllt ar eich llythyr apwyntiad, ceisiwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol. Diolch i chi am eich amynedd a'ch cefnogaeth.

RHANNWCH OGYDD: Mae ein Hadrannau Achosion Brys (A&E) ar draws pob safle, ac yn arbennig yn Ysbyty Glangwili a Llwynhely...
04/01/2026

RHANNWCH OGYDD: Mae ein Hadrannau Achosion Brys (A&E) ar draws pob safle, ac yn arbennig yn Ysbyty Glangwili a Llwynhelyg o dan bwysau sylweddol heddiw (dydd Sul, 4 Ionawr 2026).

Helpwch ni i’n helpu chi – ewch am y gofal cywir yn y lle cywir.

GIG 111 Cymru yw eich cam cyntaf os ydych chi’n teimlo’n sâl ac yn ansicr ble i fynd i gael cymorth. Caiff y gwasanaeth ei redeg gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol hyfforddedig a all roi cyngor arbenigol a’ch tywys i’r gofal cywir.

🌐 Ewch i 111.wales.nhs.uk
📞 Ffoniwch 111
🚑 Os yw’n argyfwng difrifol neu sy’n peryglu bywyd, ffoniwch 999 bob amser

Am gymorth iechyd meddwl 24/7 ffoniwch GIG 111 a dewiswch opsiwn 2.

Mynychwch Adran Achosion Brys dim ond os oes gennych salwch sy’n peryglu bywyd neu anaf difrifol, mae ambell wasanaeth all eich helpu. Ewch i https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/ysbytai-a-chanolfannau/unedau-man-anafiadau am fwy o wybodaeth.

Gall llawer o fferyllfeydd cymunedol hefyd ddarparu gwasanaethau cerdded i mewn, anhwylderau cyffredin neu frysbennu a thrin heb apwyntiad. Gallwch ddarganfod mwy yma: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa

Os oes gennych chi berthynas neu anwylyn yn yr ysbyty sy’n ddigon iach i fynd adref, ond sy’n aros i gael ei ryddhau gyda gofal-cartref a chymorth iechyd cymunedol, efallai y gallwch chi eu helpu i gyrraedd adref yn gynt os ydych chi a’ch teulu mewn sefyllfa i'w cefnogi gartref.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses a’r canllawiau rhyddhau o’r ysbyty yma: https://biphdd.gig.cymru/gwybodaeth-i-gleifion/cleifion-mewnol-ac-allanol/gwybodaeth-i-gleifion-mewnol/

RHANNWCH OGYDD: Mae ein Hadrannau Achosion Brys (A&E) ar draws pob safle, ac yn arbennig yn Ysbyty Glangwili o dan bwysa...
02/01/2026

RHANNWCH OGYDD: Mae ein Hadrannau Achosion Brys (A&E) ar draws pob safle, ac yn arbennig yn Ysbyty Glangwili o dan bwysau sylweddol heddiw (dydd Gwener, 2 Ionawr 2026).

Helpwch ni i’n helpu chi – ewch am y gofal cywir yn y lle cywir.

GIG 111 Cymru yw eich cam cyntaf os ydych chi’n teimlo’n sâl ac yn ansicr ble i fynd i gael cymorth. Caiff y gwasanaeth ei redeg gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol hyfforddedig a all roi cyngor arbenigol a’ch tywys i’r gofal cywir.

🌐 Ewch i 111.wales.nhs.uk
📞 Ffoniwch 111
🚑 Os yw’n argyfwng difrifol neu sy’n peryglu bywyd, ffoniwch 999 bob amser

Am gymorth iechyd meddwl 24/7 ffoniwch GIG 111 a dewiswch opsiwn 2.

Mynychwch Adran Achosion Brys dim ond os oes gennych salwch sy’n peryglu bywyd neu anaf difrifol, mae ambell wasanaeth all eich helpu. Ewch i https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/ysbytai-a-chanolfannau/unedau-man-anafiadau am fwy o wybodaeth.

Gall llawer o fferyllfeydd cymunedol hefyd ddarparu gwasanaethau cerdded i mewn, anhwylderau cyffredin neu frysbennu a thrin heb apwyntiad. Gallwch ddarganfod mwy yma: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/

Os oes gennych chi berthynas neu anwylyn yn yr ysbyty sy’n ddigon iach i fynd adref, ond sy’n aros i gael ei ryddhau gyda gofal-cartref a chymorth iechyd cymunedol, efallai y gallwch chi eu helpu i gyrraedd adref yn gynt os ydych chi a’ch teulu mewn sefyllfa i'w cefnogi gartref.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses a’r canllawiau rhyddhau o’r ysbyty yma: https://biphdd.gig.cymru/gwybodaeth-i-gleifion/cleifion-mewnol-ac-allanol/gwybodaeth-i-gleifion-mewnol/

Rydym yn cynnal y canolfannau brechu cymunedol dros dro canlynol yr wythnos nesaf i helpu pobl i gael mynediad at eu bre...
02/01/2026

Rydym yn cynnal y canolfannau brechu cymunedol dros dro canlynol yr wythnos nesaf i helpu pobl i gael mynediad at eu brechlynnau ffliw a COVID-19.

Ewch i'n tudalen we hon am fanylion lleoliad ac ar gyfer holl ddyddiadau clinigau https://biphdd.gig.cymru/.../imiwn.../brechu-ffliw-tymhorol/

I weld a ydych chi’n gymwys i gael y brechlyn ffliw a/neu COVID-19, ewch i https://icc.gig.cymru/.../imiwneiddio.../brechiadaur-gaeaf/ neu cysylltwch â’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 a dewis opsiwn 1 neu yn ask.hdd@wales.nhs.uk.

Os ydych chi’n gymwys, galwch heibio un o’r canolfannau canlynol, neu os oes yn well gennych wneud apwyntiad, cysylltwch â’r bwrdd iechyd ar y manylion uchod.

Os byddaf yn rhedeg allan o'm meddyginiaeth a ragnodir ac mae fy meddygfa ar gau – beth ddylwn i ei wneud? 🤔Os byddwch y...
01/01/2026

Os byddaf yn rhedeg allan o'm meddyginiaeth a ragnodir ac mae fy meddygfa ar gau – beth ddylwn i ei wneud? 🤔

Os byddwch yn rhedeg allan o'ch meddyginiaeth a ragnodir yn rheolaidd, gan gynnwys dulliau atal cenhedlu, mae ein fferyllfeydd cymunedol yn cynnig gwasanaeth cyflenwad brys.

Gall eich fferyllfa gymunedol leol ddarparu cyflenwad bach, os yw'n briodol, nes y gallwch gael presgripsiwn.

I ddod o hyd i'ch fferyllfa agosaf, oriau agor a pha wasanaethau eraill y gallant eu cynnig, ewch i https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/

Yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda i'n cleifion, i'n staff, ein partneriaid, a'n cymunedau oll. 🥳Gan obeithio bydd 2026 yn fl...
01/01/2026

Yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda i'n cleifion, i'n staff, ein partneriaid, a'n cymunedau oll. 🥳

Gan obeithio bydd 2026 yn flwyddyn iach a hapus i bawb.

Cadwch yn ddiogel ac yn iach ar y diwrnod oer hwn. Efallai y bydd angen cefnogaeth ychwanegol ar bobl eraill o'ch cwmpas...
31/12/2025

Cadwch yn ddiogel ac yn iach ar y diwrnod oer hwn. Efallai y bydd angen cefnogaeth ychwanegol ar bobl eraill o'ch cwmpas, yn enwedig cymdogion hŷn, teulu a ffrindiau, yn ystod tywydd oer.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo esgidiau call a chymerwch ddigon o amser i gyrraedd apwyntiadau yn ein hysbytai a safleoedd clinigol. Diolch.

Am gyngor defnyddiol ar gyfer cadw'ch hun yn iach yn ystod tywydd oer, ewch i: https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/iechyd-cyhoeddus-amgylcheddol/y-tywydd-ac-iechyd/tywydd-oer/cyngor-ir-cyhoedd/

Address

Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth
Caerfyrddin
SA313BB

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Bwrdd Iechyd Hywel Dda posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share

Share on Facebook Share on Twitter Share on LinkedIn
Share on Pinterest Share on Reddit Share via Email
Share on WhatsApp Share on Instagram Share on Telegram