11/11/2025
Bu bron i Luke, dyn heini ac iach yn ei 40au, farw ar ôl datblygu haint prin ac ymosodol, a gychwynnodd gyda’r hyn â edrychai fel crafiad bach ar ei benelin.
Un dydd Sadwrn, teimlai Luke yn sâl ac roedd ganddo symptomau tebyg i ffliw. Arhosodd yn y gwely tra bod ei wraig Julie, nyrs iechyd meddwl, yn mynd am eu parkrun arferol.
Erbyn iddi ddychwelyd, roedd ei gyflwr wedi gwaethygu, roedd yn crynu er bod ganddo dymheredd uchel, roedd yn wan, ac yn cwyno am boen yn ei fraich. Sylwodd Julie ar gochni o amgylch crafiad bach ac, yn bryderus, ffoniodd GIG 111.
Tra roedden nhw'n aros am alwad yn ôl, dechreuodd Luke chwydu a lledaenodd y cochni. Rhuthrodd Julie ef i'r Adran Achosion Brys. Amheuodd nyrs sepsis yn gyflym, a gweithredodd y meddygon yn ar unwaith. Dangosodd profion gwaed fod Luke yn wael iawn. Cododd un o'r meddygon y larwm am fasciitis necrotising, haint "bwyta cnawd" prin sy'n peryglu bywyd.
Aethpwyd â Luke am lawdriniaeth frys. Dywedwyd wrth Julie y gallai golli ei fraich a bod yn rhaid iddi roi caniatâd. Llwyddodd llawfeddygon i'w hachub, ond cafodd ei roi ar beiriant cynnal bywyd yn yr uned gofal dwys, gan ei fod yn dioddef o sioc septig ddifrifol. Cafodd sawl llawdriniaeth, derbyniodd drallwysiad gwaed, a chafodd ei gadw mewn coma wedi’i ysgogi.
Ar ôl dau ddiwrnod o fod yn anymwybodol, dechreuodd Luke wella'n araf. Yn nes ymlaen cafodd drawsblaniad croen yn Ysbyty Morriston. Roedd staff yr Uned Gofal Dwys wedi cadw dyddiadur o'i ofal er mwyn ei helpu i ddeall beth ddigwyddodd.
Nawr, wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae Luke yn dal i fyw gyda syndrom ôl-sepsis ond mae wedi cael y rhan fwyaf o’r symudiad yn ôl yn ei fraich. Mae ef a Julie bellach yn gwirfoddoli er mwyn codi ymwybyddiaeth o sepsis, ac mae Julie yn rhoi clod i'r staff a feddyliodd yn gyflym, ac achub ei fywyd.
“Dechreuodd popeth gyda’r hyn roedden ni’n tybio oedd y ffliw a chrafiad bach,”meddai Julie. “Ond o fewn oriau, roedd Luke yn ymladd am ei fywyd. Gall adnabod arwyddion sepsis achub bywydau go iawn.”
Mae arwyddion a symptomau sepsis mewn oedolion a phlant hŷn yn cynnwys:
S - Slurred speech - Lleferydd aneglur neu ddryswch
E - Extreme shivering or muscle pain - Cryndod eithafol neu boen yn y cyhyrau
P- Passing no urine (in a day) - Pasio dim wrin (mewn diwrnod)
S- Severe breathlessness - Diffyg anadl difrifol
I - It feels like you’re going to die - Teimlo eich bod chi am farw
S - Skin mottled or discoloured - Croen brith neu liw anarferol
I ddarllen stori lawn Luke ac i ddysgu mwy am sepsis, ewch i: https://orlo.uk/sa5nH