Llais Cymru

Llais Cymru Rhaid i leisiau cryf pobl Cymru fod wrth galon system iechyd a gofal cymdeithasol effeithiol. In English:

Mae LLAIS yn gorff annibynnol, cenedlaethol sy’n rhoi mwy o rym a dylanwad i bobl Cymru lunio eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwn yn gweithio gyda chyrff iechyd a gofal cymdeithasol, llunwyr polisi ac eraill, fel eu bod yn clywed eich llais ac yn defnyddio eich atborth i helpu i lunio gwasanaethau iechyd a gofal i ddiwallu anghenion pawb.

Rydyn ni yn ffair iechyd Race Equality First heddiw. Os ydych chi yng Nghaerdydd, dewch i'n gweld ni yn Nhŷ Portland - b...
22/04/2026

Rydyn ni yn ffair iechyd Race Equality First heddiw.

Os ydych chi yng Nghaerdydd, dewch i'n gweld ni yn Nhŷ Portland - bydd ein tîm yno tan 2yp i glywed eich barn am iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

📣 Rydym yn cyflogi Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol📍Castedd Nedd Port Talbot ac Abertawe | Gweithio hybridA oes gennyc...
19/04/2026

📣 Rydym yn cyflogi Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol
📍Castedd Nedd Port Talbot ac Abertawe | Gweithio hybrid

A oes gennych chi angerdd dros wneud gwahaniaeth go iawn i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?

Mae Llais yn chwilio am Reolwr Gweithrediadau Rhanbarthol i helpu i gryfhau pŵer a dylanwad lleisiau pobl a sicrhau bod y lleisiau hynny’n siapio’r gwasanaethau sy’n bwysicaf iddynt.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddarparu arweinyddiaeth weithredol, cefnogi timau a gwirfoddolwyr, a helpu i droi’r hyn a ddywed pobl yn newid cadarnhaol.

Os ydych yn credu mewn gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan bobl, yn gwerthfawrogi cydweithio ac uniondeb, ac eisiau gweithio i sefydliad cenedlaethol sy’n rhoi cymunedau wrth wraidd popeth a wnawn, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

👉 Dysgwch ragor a gwnewch gais yma:
https://ow.ly/8aiL50YKAkR

Mae Llais yn gweithio ar draws pob rhan o Gymru, gan gysylltu â phobl mewn cymunedau lleol i ddeall beth sy'n gweithio'n...
16/04/2026

Mae Llais yn gweithio ar draws pob rhan o Gymru, gan gysylltu â phobl mewn cymunedau lleol i ddeall beth sy'n gweithio'n dda a lle mae angen gwelliannau mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae ein timau lleol yn helpu i sicrhau bod barn o wahanol ardaloedd a chymunedau yn cael eu clywed.

I ddod o hyd i'ch tîm lleol, cliciwch ar y ddolen isod 👇
https://ow.ly/VNSG50YH1sU

⚠️ Heddiw yw eich diwrnod olaf i ymgeisio! ⚠️Fel Eiriolwr Cwynion yng Ngorllewin Cymru, byddwch yn:🔹 Cefnogi pobl i wneu...
13/04/2026

⚠️ Heddiw yw eich diwrnod olaf i ymgeisio! ⚠️

Fel Eiriolwr Cwynion yng Ngorllewin Cymru, byddwch yn:

🔹 Cefnogi pobl i wneud cwynion mewn ffyrdd sy’n diwallu eu hanghenion
🔹 Nodi tueddiadau a sbarduno gwelliannau
🔹 Helpu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddysgu o brofiadau byw

Yn ogystal â buddion gwych, gweithio hyblyg a phensiwn GIG.

Gwnewch gais heddiw a helpwch droi profiadau’n weithredu.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen isod 👇
https://ow.ly/jhrG50YH0Qg

Mae gwrando ar bobl wrth wraidd yr hyn rydyn ni'n ei wneud.  Rydym yn clywed yn uniongyrchol gan unigolion a chymunedau ...
10/04/2026

Mae gwrando ar bobl wrth wraidd yr hyn rydyn ni'n ei wneud.

Rydym yn clywed yn uniongyrchol gan unigolion a chymunedau am eu profiadau o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan ddefnyddio ystod o ddulliau ymgysylltu i sicrhau bod lleisiau amrywiol yn cael eu cynnwys.

Mae eich profiad yn bwysig.

Rhannwch eich profiad gyda ni, trwy lenwi ein harolwg ar-lein isod 👇
https://ow.ly/isCJ50YH0tS

🌟 Chwilio am rôl lle mae eich gwaith yn arwain at newid gwirioneddol?Fel Eiriolwr Cwynion yng Ngorllewin Cymru, byddwch ...
07/04/2026

🌟 Chwilio am rôl lle mae eich gwaith yn arwain at newid gwirioneddol?

Fel Eiriolwr Cwynion yng Ngorllewin Cymru, byddwch yn:

🔹 Cefnogi pobl i wneud cwynion mewn ffyrdd sy’n diwallu eu hanghenion
🔹 Nodi tueddiadau a sbarduno gwelliannau
🔹 Helpu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddysgu o brofiadau byw

Yn ogystal â buddion gwych, gweithio hyblyg a phensiwn GIG.

Gwnewch gais heddiw a helpwch droi profiadau’n weithredu.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen isod 👇
https://www.llaiscymru.org/dewch-i-weithio-i-ni

Mae Llais eisiau dymuno Pasg Hapus i chi gyd 🌷✨Gobeithio eich bod yn mwynhau penwythnos hir a hyfryd.Cofiwch ein bod ar ...
05/04/2026

Mae Llais eisiau dymuno Pasg Hapus i chi gyd 🌷✨

Gobeithio eich bod yn mwynhau penwythnos hir a hyfryd.

Cofiwch ein bod ar gau yfory (Dydd Llun 5 Ebrill 2026) oherwydd y gwyliau banc, ond byddwn yn ôl ar agor fel arfer o ddydd Mawrth ymlaen.

Os oes gennych bryderon am eich gofal GIG yng Nghymru, mae Llais yma i helpu.Mae Gwrando ar Bobl yn broses gwyno newydd ...
02/04/2026

Os oes gennych bryderon am eich gofal GIG yng Nghymru, mae Llais yma i helpu.

Mae Gwrando ar Bobl yn broses gwyno newydd GIG Cymru, wedi’i chreu i sicrhau bod eich pryderon yn cael eu clywed, eu trin â thosturi, ac yn cael eu defnyddio i wella gwasanaethau.

Gall ein Gwasanaeth Eiriolaeth Cwynion, sy’n rhad ac am ddim ac yn annibynnol, eich arwain trwy bob cam.

P’un a ydych yn codi pryder ar eich rhan eich hun neu ar ran rhywun arall, rydym yma i’ch cefnogi.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen isod 👇
https://ow.ly/GFf750YClgK

Rydyn ni’n dathlu 3️⃣ blynedd o Llais! 🎉Heddiw, rydyn ni’n nodi ein trydydd pen-blwydd!Dyna 3️⃣ blynedd o:🦻 wrando🌟 dysg...
01/04/2026

Rydyn ni’n dathlu 3️⃣ blynedd o Llais! 🎉

Heddiw, rydyn ni’n nodi ein trydydd pen-blwydd!

Dyna 3️⃣ blynedd o:
🦻 wrando
🌟 dysgu
🫶 gweithio gyda phobl a chymunedau i wneud gwahaniaeth go iawn

Wrth inni edrych ymlaen, rydyn ni’n falch o rannu ein Cynllun Blynyddol 2026–2027, sy’n amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn a sut rydyn ni’n parhau i gryfhau llais pobl yng Nghymru.

Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol yn llawn isod 👇
https://ow.ly/M3ny50YBsrv

HELP! Rydyn ni eisiau clywed mwy gan blant a phobl ifanc.Rydyn ni’n profi rhai syniadau brandio newydd ar gyfer plant a ...
27/03/2026

HELP!
Rydyn ni eisiau clywed mwy gan blant a phobl ifanc.
Rydyn ni’n profi rhai syniadau brandio newydd ar gyfer plant a phobl ifanc — ac rydym eisiau gwybod beth maen nhw yn ei feddwl.
Os oes gennych blant neu bobl ifanc o gwmpas (neu os ydych chi’n un eich hun!), gofynnwch iddyn nhw gymryd rhan yn yr arolwg byr yma:
👉 https://www.menti.com/aly12tf6vcod
Ar agor tan fore Llun. Diolch yn fawr! 🙌

Be heard, collaborate, and share ideas—make meetings and classes more engaging with real conversations.

📢 Rydym yn falch o rannu newyddion gwych!Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn tymor yr Athro Medwin Hughes fel Cadeirydd L...
26/03/2026

📢 Rydym yn falch o rannu newyddion gwych!

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn tymor yr Athro Medwin Hughes fel Cadeirydd Llais am bedair blynedd arall.

Mae ei arweinyddiaeth, ei ymrwymiad a'i weledigaeth strategol wedi bod yn amhrisiadwy, ac mae'r estyniad hwn yn sicrhau parhad wrth i ni symud ymlaen â'n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Ymunwch â ni i groesawu'r Athro Medwin Hughes am 4 blynedd arall a diolch iddo am ei ymroddiad parhaus.

Darllenwch fwy isod 👇
https://www.llaiscymru.org/newyddion-ac-adroddiadau/newyddion/llywodraeth-cymru-yn-ymestyn-tymor-yr-athro-medwin-hughes-fel

Heddiw cawsom y fraint o fod yn rhan o'r panel yng Nghynulliad Gofalwyr Cymru Gyfan 2026 🌟 Roedd yn ddigwyddiad pwerus a...
23/03/2026

Heddiw cawsom y fraint o fod yn rhan o'r panel yng Nghynulliad Gofalwyr Cymru Gyfan 2026 🌟

Roedd yn ddigwyddiad pwerus ac emosiynol, a gynhaliwyd gan Carers Wales a ddaeth â gofalwyr o bob cwr o Gymru ynghyd i rannu eu profiadau o beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd i ofalu am anwylyd.

Roedd gwrando ar y straeon hyn yn atgoffa llym o'r heriau enfawr y mae gofalwyr yn eu hwynebu bob dydd - yn aml yn dawel, yn ddiflino, a heb gydnabyddiaeth.

Diolch yn fawr iawn i bawb a rannodd eu profiadau a diolch i'w cyd-banelwyr David Pritchard, Gofal Cymdeithasol Cymru / Social Care Wales a Darren Hughes, Cydffederasiwn GIG Cymru am eu mewnwelediadau.

Address

3ydd Llawr, 33/35 Cathedral Road
Cardiff
CF119HB

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Llais Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Practice

Send a message to Llais Cymru:

Share