03/03/2026
We wanted to let you know about some upcoming works to the chapel on the Whitchurch Hospital site.
Velindre University NHS Trust became the legal owner of the Whitchurch Hospital buildings and surrounding land in November 2024, following a transfer from Cardiff and Vale University Health Board. Since then, the Trust has undertaken important steps to ensure the site is safe and secure and begin planning for its future.
As part of this work, we need to carry out some urgent safeguarding works to prevent further dilapidation of the Whitchurch Chapel. To reduce the risk of further decay, we need to weatherproof the roof and dormer windows and reduce water entering the building.
The chapel, and the wider site, hold historical and emotional importance to many in our community, including the Trust who has been a neighbour since the Velindre Cancer Centre opened in 1956. The Trust is committed to acting as a responsible landowner and engaging openly with our partners and the community.
To carry out this work safely, we’ll need to put in place traffic management and preparation will start from Thursday March 5.
This will involve a reduction of the lane width closest to the Chapel. Priority will be given to vehicles entering from Park Road toward City Hospice. Vehicles exiting the site (from City Hospice direction toward Park Road) will give way to the oncoming traffic. Please see the attached Traffic Management Plan.
The Trust has brought in professional advisers and secured Welsh Government funding to carry out clearance, safety and other works associated with preparing the site for disposal. We have worked closely with Cardiff Council planning and heritage officers as part of this work.
The works are being carried out by our contractor, John Weaver Limited, who have extensive experience in conservation works for Grade I and II Listed heritage sites.
If you have any questions, please get in touch with the team at contact.velindre@wales.nhs.uk
--
Roedden ni eisiau rhoi gwybod i chi am rywfaint o waith sydd yn mynd i gael ei wneud cyn bo hir ar y capel ar safle Ysbyty'r Eglwys Newydd.
Daeth Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn berchennog cyfreithiol adeiladau Ysbyty’r Eglwys Newydd a'r tir cyfagos ym mis Tachwedd 2024, yn sgil trosglwyddo o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Ers hynny, mae'r Ymddiriedolaeth wedi cymryd camau pwysig i sicrhau bod y safle'n ddiogel ac yn saff, ac wedi dechrau cynllunio ar gyfer ei ddyfodol.
Fel rhan o'r gwaith hwn, mae angen i ni wneud rhywfaint o waith diogelu brys i atal Capel yr Eglwys Newydd rhag dadfeilio ymhellach. Er mwyn lleihau'r risg o bydredd pellach, mae angen i ni ddiogelu'r to a'r ffenestri dormer rhag y tywydd, a cheisio stopio dŵr rhag mynd mewn i'r adeilad.
Mae'r safle o bwys hanesyddol ac emosiynol i lawer yn ein cymuned, gan gynnwys Felindre, sydd wedi bod yn gymydog ers i Ganolfan Ganser Felindre agor ym 1956. Mae'r Ymddiriedolaeth wedi ymrwymo i weithredu fel tirfeddiannwr cyfrifol, ac i ymgysylltu'n agored â'n partneriaid a'r gymuned.
Er mwyn cyflawni'r gwaith hwn yn ddiogel, bydd angen i ni roi rheolaeth traffig ar waith, a bydd y paratoadau'n dechrau ar ddydd Iau, 5 Mawrth.
Bydd hyn yn golygu lleihau lled y lôn agosaf at y Capel. Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i gerbydau sy'n dod i mewn o Heol y Parc tuag at Hosbis y Ddinas. Bydd cerbydau sy'n gadael y safle (o gyfeiriad Hosbis y Ddinas tuag at Heol y Parc) yn ildio i'r traffig sy'n dod tuag ato. Gweler y Cynllun Rheoli Traffig sydd wedi’i atodi.
Mae'r Ymddiriedolaeth wedi dod â chynghorwyr proffesiynol i mewn, ac wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud gwaith clirio, diogelwch a gwaith arall sy'n gysylltiedig â pharatoi'r safle ar gyfer gwerthu. Rydym wedi gweithio'n agos gyda swyddogion cynllunio a threftadaeth Cyngor Caerdydd fel rhan o'r gwaith hwn.
Mae'r gwaith yn cael ei wneud gan ein contractwr, John Weaver Limited, sydd â phrofiad helaeth mewn gwaith cadwraeth ar gyfer safleoedd treftadaeth Rhestredig Gradd I a II.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch: contact.velindre@wales.nhs.uk