Addysg a Gwella Iechyd Cymru - AAGIC

Addysg a Gwella Iechyd Cymru - AAGIC Cynllunio, datblygu, siapio, addysgu a hyfforddi y gweithlu iechyd ar gyfer heddiw ac yfory. Sylwch fod y swyddogaeth cyfieithu Facebook yn anghywir.

Am ddiweddariadau yn Saesneg, dilynwch ein tudalen Saesneg:
facebook.com/HEIW.NHS

Mae rhaglen Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol (DFT) Cynnig Recriwtio Gwell Cymru (WERO) yn mynd i'r afael â bylchau hirh...
24/04/2026

Mae rhaglen Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol (DFT) Cynnig Recriwtio Gwell Cymru (WERO) yn mynd i'r afael â bylchau hirhoedlog yn y gweithlu drwy ddenu a chadw deintyddion sydd ar ddechrau eu gyrfa lle mae eu hangen fwyaf.

Yr effaith:
✔️ 100% o swyddi hyfforddi WERO wedi'u llenwi bob blwyddyn ers ei lansio
✔️ Hyd at 90% o hyfforddeion yn aros yng Nghymru
✔️ 100% o adborth cadarnhaol gan hyfforddeion

Beth mae hyn yn ei olygu:
• Mwy o ddeintyddion yn dewis gweithio mewn cymunedau gwledig
• Gweithlu lleol cryfach a mwy cynaliadwy
• Datblygiad gyrfa ehangach drwy WERO+1

Ac i gleifion:
• Mwy o apwyntiadau ar gael mewn ardaloedd heb wasanaethau digonol
• Mynediad cyflymach at ofal brys
• Llai o atgyfeiriadau ysbyty, gan leddfu'r pwysau ar wasanaethau eilaidd
• Triniaethau cymhleth bellach yn cael eu darparu'n agosach at adref

Mae hwn yn enghraifft glir o sut y gall buddsoddiad wedi'i dargedu, recriwtio lleol, a llwybrau hyfforddi arloesol leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella gofal.

Darllenwch fwy yma : https://aagic.gig.cymru/diweddariadau/newyddion/dft-wero-cryfhau-recriwtio-cadw-a-mynediad-i-gleifion-yn-y-gweithlu-deintyddol-yng-nghefn-gwlad-cymru/

Llongyfarchiadau i’n chweched garfan o’r Rhaglen Arweinyddiaeth Glinigol Uwch🎉Am flwyddyn y bu hi! Taith wedi’i lunio ga...
23/04/2026

Llongyfarchiadau i’n chweched garfan o’r Rhaglen Arweinyddiaeth Glinigol Uwch🎉

Am flwyddyn y bu hi! Taith wedi’i lunio gan chwilfrydedd, dewrder ac yn anad dim, tosturi. Mae cwblhau’r rhaglen hon yn gyflawniad mawr ac yn un sy’n werth ei ddathlu.

Roedd diwrnod y dathlu yn fwy na dim ond carreg filltir. Mae’n adlewyrchu’r ymroddiad a’r ymrwymiad a ddangoswyd gan bob cyfranogwr. Mae hefyd yn nodi dechreuad rhywbeth mwy - gweithlu’r dyfodol sy’n tyfu ac sy’n cael ei arwain gyda charedigrwydd a phwrpas.

Caiff arweinwyr eu datblygu, nid eu geni. Mewn ymateb i Strategaeth y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer GIG Cymru (2020), sefydlwyd y Rhaglen Arweinyddiaeth Glinigol Uwch i gefnogi clinigwyr i ddatblygu’r hyder a’r sgiliau sydd eu hangen i arwain mewn systemau cymhleth. Drwy ddylanwadu, ysbrydoli a chefnogi eraill, mae’r arweinwyr hyn yn helpu timau i ffynnu ac yn gwella’r gofal a ddarperir i gleifion ledled Cymru.

Llongyfarchiadau unwaith eto i’n holl raddedigion. Edrychwn ymlaen at weld sut y bydd eich arweinyddiaeth yn parhau i lunio eich ymarfer, eich timau a’r cymunedau rydych yn eu gwasanaethu.

Dysgwch fwy: https://nhswalesleadershipportal.heiw.wales/aclp

📢 Mae ffenestr dewis ymgeiswyr reccriwtio cenedlaethol hyfforddiant sylfaen deintyddol ar agor!Mae'r ffenestr ar agor ta...
21/04/2026

📢 Mae ffenestr dewis ymgeiswyr reccriwtio cenedlaethol hyfforddiant sylfaen deintyddol ar agor!

Mae'r ffenestr ar agor tan 8/05/2026 – felly os ydych chi'n dal i ystyried ble i gwblhau eich blwyddyn DFT , nawr yw'r amser i archwilio eich opsiynau!

Pam dewis Cymru i gwblhau eich Hyfforddiant Deintyddol Sylfaen?
✅Cydbwysedd anhygoel rhwng bywyd a gwaith
✅Cymunedau bywiog a thirweddau godidog
✅Rhaglen wedi'i chynllunio ar gyfer eich llwyddiant!

Dechreuwch eich taith gyda ni a phrofwch hyfforddiant eithriadol mewn amgylchedd golygfaol a chroesawgar .

🔗 https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/a-i-y/deintyddol/rhaglenni-hyfforddi/hyfforddiant-deintyddol-sylfaenol/cynlluniau-deintyddol-sylfaenol/

Gan gefnogi gweithlu cryfach yn GIG Cymru, mae AaGIC yn helpu i ddarparu gofal amserol, gwasanaethau o ansawdd uchel a c...
10/04/2026

Gan gefnogi gweithlu cryfach yn GIG Cymru, mae AaGIC yn helpu i ddarparu gofal amserol, gwasanaethau o ansawdd uchel a chanlyniadau iechyd gwell i gymunedau ledled Cymru.

Dyma rai o'n newyddion diweddaraf

Rhaglenni e-ddysgu iechyd meddwl
Mae dros 5,000 o gydweithwyr gofal iechyd wedi cofrestru ar gyfer ein cyrsiau e-ddysgu iechyd meddwl am ddim sy'n cryfhau gofal iechyd meddwl ledled Cymru. Mae ar gyfer pawb a gallwch ddysgu mwy yn https://aagic.gig.cymru/diweddariadau/newyddion/cryfhaur-gweithlu-dros-5000-o-gofrestriadau-yn-e-ddysgu-iechyd-meddwl-aagic/

Offer cynllunio gweithlu ar gyfer timau Gofal Sylfaenol
Cyfres newydd o adnoddau cynllunio gweithlu i helpu timau gofal sylfaenol i gynllunio gyda mwy o hyder a llai o bwysau. Archwiliwch yr offer a dechreuwch gynllunio heddiw
Mae AaGIC yn lansio Adnoddau Cynllunio Gweithlu wedi'u hadnewyddu i gryfhau timau gofal sylfaenol - AaGIC

Rydym wedi lansio'r Fframwaith Datblygu Proffesiynol ar gyfer Efelychu Aml-broffesiynol mewn iechyd a gofal . Wedi'i ddatblygu ar y cyd ar draws y DU ac Iwerddon, ochr yn ochr ag ASPiH, mae'r fframwaith wedi'i osod i gryfhau a phroffesiynoli arfer efelychu.
AaGIC a phartneriaid yn lansio'r Fframwaith Datblygu Proffesiynol ar gyfer Efelychu aml-broffesiynol mewn Iechyd a Gofal - AaGIC

Hwb cenedlaethol newydd ar gyfer Optimeiddio Llif Cleifion mewn Ysbytai
Llif cleifion yw un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu gwasanaethau gofal brys ac argyfwng ledled Cymru. Er mwyn helpu'r gweithlu i fynd i'r afael â'r heriau hyn, rydym wedi datblygu hwb llif cleifion: https://heiw.nhs.wales/.../heiw-launches-national.../

Cryfhau'r gweithlu gofal sylfaenol a chymunedol
Gyda phartneriaid rydym yn cefnogi datblygiad y gweithlu sylfaenol a chymunedol trwy gyfleoedd dysgu o ansawdd uchel. Mae Nyrsys Ymarfer Cyffredinol newydd gymhwyso, Eve a Florence, yn rhannu eu profiadau ar leoliad mewn ymarfer cyffredinol https://aagic.gig.cymru/diweddariadau/newyddion/mae-aagic-yn-lansio-rhwydwaith-optimeiddio-llif-cleifion-ysbytai-cenedlaethol/

Ydych chi'n fferyllydd rhagnodi sydd ar ddechrau eich gyrfa?
Mae Fferylliaeth AaGIC gyda'r RPS yn cynnig Model Cymorth Fferyllydd Sylfaen Ôl-gofrestru (PRFP) 18 mis, gan ddechrau ym mis Medi 2026. Mae'r gefnogaeth yn rhoi cyfle i chi weithio ar draws amrywiol leoliadau gofal iechyd yng Nghymru wrth feithrin eich hyder a datblygu eich sgiliau rhagnodi yn gynnar yn eich gyrfa. Am ragor o wybodaeth https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/a-i-y/fferylliaeth/model-cymorth/

Hwb lles digidol newydd
Dyma Ffordd, hwb lles digidol ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl. Yn cyd-fynd â Chynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, mae'r hwb wedi'i gynllunio i gryfhau gwydnwch, meithrin hyder a chefnogi diogelwch seicolegol ledled Cymru. https://aagic.gig.cymru/diweddariadau/newyddion/mae-aagic-yn-lansio-ffordd-adnodd-lles-cenedlaethol-ar-gyfer-y-gweithlu-iechyd-meddwl-yng-nghymru/

Mae'r Prosiect Trawsnewid Theatrau yn cyflawni gwelliannau mewn cynllunio'r gweithlu, addysg, ansawdd data a chyfleoedd datblygu ar gyfer y gweithlu o fewn y cyfnod amlawdriniaethol ar draws GIG Cymru. Dysgwch fwy yma: https://aagic.gig.cymru/diweddariadau/newyddion/prosiect-trawsnewid-theatrau-aagic-yn-helpu-i-gryfhau-gweithlu-amlawdriniaethol-cymru/

Ydych chi'n ddarpar Hyfforddai Deintyddol Sylfaen (DFT)? Ystyried Cymru ar gyfer eich blwyddyn DFT? Yng Nghymru, rydym yn cynnig profiad hyfforddi sy'n eich paratoi ar gyfer llwyddiant. Dysgwch fwy yma: https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/a-i-y/deintyddol/rhaglenni-hyfforddi/hyfforddiant-deintyddol-sylfaenol/

Dyfarnwyd Gwobr Gwella AaGIC 2025/26 i Fleur McGill, Hyfforddai Deintyddol Craidd (Blwyddyn 3) mewn Llawfeddygaeth y Geg a’r Wyneb – llongyfarchiadau Fleur! Wedi'i leoli yn Ysbyty Treforys, canolbwyntiodd prosiect Fleur ar wneud gwelliannau i ddogfennaeth ac argaeledd offer brys, er mwyn sicrhau gofal diogel ac effeithiol i gleifion.
Darllenwch fwy yma: https://aagic.gig.cymru/diweddariadau/newyddion/cyhoeddi-enillydd-gwobr-gwella-aagic-202526/

Newyddion pellach:
https://aagic.gig.cymru/diweddariadau/newyddion/

📢 Mae ffenestr dewis ymgeiswyr DFT NR ar agor!Mae'r ffenestr ar agor tan 08/05/2026 – felly os ydych chi'n dal i ystyrie...
10/04/2026

📢 Mae ffenestr dewis ymgeiswyr DFT NR ar agor!

Mae'r ffenestr ar agor tan 08/05/2026 – felly os ydych chi'n dal i ystyried ble i gwblhau eich blwyddyn DFT , nawr yw'r amser i archwilio eich opsiynau! Dewiswch Gymru, gallwn gynnig hyfforddiant o safon gyda mentora arbenigol, lleoliadau hyfryd a chymunedau bywiog, rhaglen gefnogol, sefydledig wedi'i chynllunio ar gyfer eich llwyddiant.

Ewch i’n gwefan i weld a chlywed beth all Cymru ei gynnig i chi – rydym yn barod i’ch helpu i dyfu yn eich gyrfa ddeintyddol!

🔗 https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/a-i-y/deintyddol/rhaglenni-hyfforddi/hyfforddiant-deintyddol-sylfaenol/cynlluniau-deintyddol-sylfaenol/

📢 Ystyried lle i gwblhau eich Hyfforddiant Craidd Deintyddol? Mae Cymru’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi unigry...
09/04/2026

📢 Ystyried lle i gwblhau eich Hyfforddiant Craidd Deintyddol? Mae Cymru’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi unigryw wedi’u teilwra i gyd-fynd â’ch dyheadau gyrfaol.

Pam dewis Hyfforddiant Craidd Deintyddol yng Nghymru?
• Hyfforddiant o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o arbenigeddau deintyddol a lleoliadau cymunedol.
• 28 diwrnod astudio wedi'u trefnu ynghyd â dau ddiwrnod astudio hunangyfeiriedig wedi'u neilltuo, sy'n blaenoriaethu datblygiad trwy amser addysgol gwarchodedig o ansawdd uchel ar draws pob lleoliad ymarfer.
• Cyfleoedd i astudio ar gyfer cymwysterau ôl-raddedig pellach (MFDS, PGCert, MSc ayyb).
• Cyfle i adeiladu’ch CV drwy fynychu cynadleddau proffesiynol a chyflwyno’ch gwaith.
• Cefnogaeth gyda chwblhau prosiectau archwilio a gwella ansawdd.
• Amgylchedd hyfforddi cefnogol a chyfeillgar.
• Cyfleoedd rhwydweithio heb ddiwedd a’r potensial i feithrin cyfeillgarwch parhaol.
• Mynediad i ddyddiau astudio gwych ac adnoddau llesiant.
• Darganfyddwch y cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith yng Nghymru gyda’i golygfeydd godidog a’i hamrywiaeth ddiwylliannol gyfoethog.

Cymerwch y cam nesaf yn eich gyrfa ddeintyddol gyda Hyfforddiant Craidd Deintyddol yng Nghymru!

I gael gwybod mwy am swyddi Hyfforddiant Craidd Deintyddol yng Nghymru, ewch i

Mae Hyfforddiant Deintyddol Craidd yn cynnig cyfle i ehangu gwybodaeth a phrofiad o fewn y proffesiwn deintyddol ac maen llwybr gyrfa cydnabyddedig ar ôl cwblhau Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol (DFT).

Yn gynharach y mis hwn, lansiwyd Hwb Addysg Iechyd Menywod GIG Cymru ar ein platfform e-ddysgu cenedlaethol, Y Tŷ Dysgu....
07/04/2026

Yn gynharach y mis hwn, lansiwyd Hwb Addysg Iechyd Menywod GIG Cymru ar ein platfform e-ddysgu cenedlaethol, Y Tŷ Dysgu.

Wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru, mae'r Hwb digidol yn gartref i ystod o adnoddau a modiwlau e-ddysgu am ddim i gefnogi darparu gofal gwybodus, o ansawdd uchel a chyfartal i fenywod ledled Cymru.

Yr wythnos hon rydym wedi rhyddhau modiwlau e-ddysgu ychwanegol i gefnogi gofal i fenywod sy’n gyson, tosturiol ac yn canolbwyntio ar y person, gan gwmpasu endometriosis ac andenomyosis, atal cenhedlu, menopos, ymwybyddiaeth gyffredinol o Iechyd menywod ac Iechyd mislif.

Mae llawer o waith i'w wneud o hyd, ond mae'r datblygiad parhaus hwn o ddysgu ac adnoddau sydd ar gael yn cynrychioli cynnydd tuag at gau bylchau addysg mewn iechyd menywod a gwella cysondeb mewn gofal.

Drwy wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, ein nod yw cefnogi cydnabyddiaeth gynharach, rheolaeth fwy effeithiol a chanlyniadau gwell i fenywod ledled Cymru.

Cofrestrwch ar gyfer Y Tŷ Dysgu i gael mynediad at yr adnoddau am ddim yma: https://nhswalesytydysgu.heiw.wales/learning-and-networks/womens-health

Dyfarnwyd Gwobr Gwella AaGIC 2025/26 i Fleur McGill, Hyfforddai Deintyddol Craidd (Blwyddyn 3) mewn Llawfeddygaeth y Geg...
03/04/2026

Dyfarnwyd Gwobr Gwella AaGIC 2025/26 i Fleur McGill, Hyfforddai Deintyddol Craidd (Blwyddyn 3) mewn Llawfeddygaeth y Geg , y Genau a'r Wyneb – llongyfarchiadau Fleur!

Wedi'i lleoli yn Ysbyty Treforys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, canolbwyntiodd prosiect Fleur ar wneud gwelliannau mewn dogfennaeth ac argaeledd offer brys, er mwyn sicrhau gofal diogel ac effeithiol i gleifion.

Darllenwch ein newyddion diweddaraf i ddysgu mwy: https://aagic.gig.cymru/diweddariadau/newyddion/cyhoeddi-enillydd-gwobr-gwella-aagic-202526/

Newyddion cyffrous ar gyfer dyfodol efelychu gofal iechydMae oes newydd wedi dechrau wrth lansio'r Fframwaith Datblygu P...
02/04/2026

Newyddion cyffrous ar gyfer dyfodol efelychu gofal iechyd

Mae oes newydd wedi dechrau wrth lansio'r Fframwaith Datblygu Proffesiynol ar gyfer Efelychu Aml-broffesiynol mewn Iechyd a Gofal. Wedi'i ddatblygu ar y cyd ar draws y DU ac Iwerddon, ochr yn ochr ag ASPiH, mae'r fframwaith hwn am gryfhau a phroffesiynoli ymarfer efelychu.

Mae'r fframwaith yn cefnogi ymarferwyr efelychu ym mhob cam o'u gyrfa, gan gwmpasu meysydd allweddol fel addysg, technoleg, arweinyddiaeth, ysgolheictod ac ymarfer trawsnewidiol. Mae'n darparu llwybrau datblygu clir i helpu unigolion i dyfu eu sgiliau, meithrin arbenigedd ac arloesi gyda hyder.

I sefydliadau, mae'n cynnig sylfaen gref ar gyfer datblygu'r gweithlu, sicrhau ansawdd a thwf cynaliadwy, gan helpu i gefnogi safonau uchel o efelychu ar draws systemau iechyd a gofal.
Yng Nghymru, bydd y fframwaith hwn yn chwarae rhan hanfodol wrth wella ansawdd, cysondeb ac effaith efelychu, cefnogi gofal mwy diogel a gwell diogelwch, profiadau a chanlyniadau cleifion.
Mae Tîm Efelychu AaGIC yn falch o fod yn rhan o'r cyflawniad cydweithredol hwn ac yn edrych ymlaen at ei ymgorffori ledled Cymru.

📩 Am ragor o wybodaeth: HEIW.Simulation@wales.nhs.uk
🔗 Fframwaith: https://aspih.org.uk/professional-development-framework/
🔗 Dysgwch fwy yma: https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/adnoddau-addysg-a-hyfforddiant-digidol/efelychiad/

Cyfle cyffrous i fferyllwyr rhagnodi cofrestredig newydd a’r rhai ar ddechrau eu gyrfa.Mae Fferylliaeth AaGIC yn cynnig ...
02/04/2026

Cyfle cyffrous i fferyllwyr rhagnodi cofrestredig newydd a’r rhai ar ddechrau eu gyrfa.

Mae Fferylliaeth AaGIC yn cynnig Model Cymorth Fferyllydd Sylfaen Ôl-gofrestru (PRFP) 18 mis, sy’n dechrau ym mis Medi 2026.

Pam ymgeisio?
- Swyddi ar gael ar draws gwahanol sectorau gofal iechyd yng Nghymru
- Meithrin hyder a sgiliau rhagnodi yn gynnar yn eich gyrfa
- Cefnogaeth arbenigol, dysgu gan gymheiriaid a datblygiad gyrfa.

Gallwch ennill hyd at 40 credyd ôl-raddedig o Brifysgol yn y DU a dyfarniad Cymhwyster Llwybr Llawn neu Fodiwlaidd 'Gwell' Cymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS), gan ddatgloi posibiliadau gyrfa newydd.

Gweler mwy o wybodaeth, swyddi gwag a sut i ymgeisio nawr trwy ein gwefan https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/a-i-y/fferylliaeth/model-cymorth/

Address

Ty Dysgu, Cefn Coed, Nantgarw, Caerdydd
Cardiff
CF157QQ

Opening Hours

Monday 8:30am - 5pm
Tuesday 8:30am - 5pm
Wednesday 8:30am - 5pm
Thursday 8:30am - 4:30pm
Friday 8:30am - 4:30pm

Telephone

+443300585005

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Addysg a Gwella Iechyd Cymru - AAGIC posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Practice

Send a message to Addysg a Gwella Iechyd Cymru - AAGIC:

Share