01/04/2020
Please read, important Information on cemeteries in Cardiff. With Regards to COVID 19 situation.
COVID-19 Update – 1st April
In the latest of Cardiff Council’s regular COVID-19 updates:
1️ cemeteries to temporarily close after large number of weekend visitors, and
2️ Cardiff Market changes ensure stalls selling essentials can remain open.
1️ Cardiff cemeteries to temporarily close after large number of weekend visitors
Four Cardiff cemeteries are to be temporarily closed to the public, unless they are attending a funeral, following a weekend which saw large numbers of people visiting the sites and failing to adhere to government instructions on social distancing.
Cabinet Member with responsibility for Bereavement Services, Cllr Michael Michael said: “Closing these sites isn’t something we’re doing lightly, but during the current emergency, public safety, and limiting the spread of COVID-19 has to come first.
“Unfortunately, the unusually high number of visitors this weekend, coupled with the lack of social distancing taking place, means we have to do what many authorities in other areas have already done - restrict access.
From 2nd April the gates at Cathays Cemetery, Western Cemetery and Pantmawr Cemetery will be locked at all times, with limited access, for a maximum of ten immediate family members, only granted when funerals and burials are taking place on site.
Access to Thornhill Cemetery and Crematorium will also be restricted. In line with Welsh Government legislation the Crematorium itself will be closed to the wider public, with the exception of a maximum of 10 immediate family members attending funerals and burials. No public access will be allowed to other areas of the site, such as the gardens, memorials or Book of Remembrance.
Cllr Michael added: “We understand that some people will find this difficult, for example if they are unable to visit a relative on an anniversary, and we are sympathetic to that, but these are challenging times and ultimately we have to do everything necessary to keep people safe.”
2️ Cardiff Market
Changes have been introduced at Cardiff Market to ensure that essential traders can continue providing fresh produce to customers across the city during the COVID19 outbreak.
Market trading hours have been reduced to 8am to 1.30pm, with entrance and exit via St Mary St only, so that the market team can control the number of customers entering the building and ensure a safe queuing system.
Traders open are:
🍤 E Aston (Fishmongers) Limited
Ashton's, who have been part of Cardiff Market since its opening in 1891, are offering a fresh counter service and a free delivery service across the city. They are Wales' largest independent fishmongers and their highly skilled fishmongers can offer the best and widest selection of fish to its customers. Please call their order line on 029 2022 9201 for free delivery.
🥓 🍖 🍗 JT Morgan Butchers
JT Morgan Butchers, which was established in 1861, is a family run butcher which boasts accolades from the likes of Rick Stein, Raymond Blanc and Angela Gray. They provide a range of high quality meats, including salt marsh lamb. Please contact JT Morgan's order line on 029 2038 8434 for delivery.
🥓 🍖 🍗 K Blackmore & Sons Butchers
Blackmore Butchers have a reputation for quality meats and unusual cuts. They have been part of the market for many years and have a loyal band of customers. From quality aged beef cuts, to goat meat and pigs heads, Blackmore Butchers offer a quality butchery service. Please call 029 2039 0401 for information on their delivery service.
🍎 🥕 Sullivans Fruit & Veg
Sullivans Fruit and Veg are a family run, independent greengrocer with over 50 years’ experience. Sullivans offer fruit and veg boxes along with normal orders and offer a free delivery service on orders over £10. They also supply milk, eggs and nets of logs for wood burners as part of their delivery service. Place orders online via http://orlo.uk/aXqee
Diweddariad COVID-19 – 1 Ebrill
Y diweddara am COVID-19 gan Gyngor Caerdydd:
1️ mynwentydd i gau dros dro ar ôl nifer uchel o ymwelwyr ar y penwythnos, a
2️ newidiadau i Farchnad Caerdydd yn sicrhau bod stondinau sy’n gwerthu nwyddau hanfodol yn aros ar agor.
1️ Mynwentydd Caerdydd i gau dros dro ar ôl nifer uchel o ymwelwyr ar y penwythnos
Caiff pedair mynwent yng Nghaerdydd eu cau i’r cyhoedd dros dro, oni bai eu bod yn mynd i angladd, yn dilyn penwythnos gyda llu o bobl yn ymweld â’r safleoedd ac yn methu cydymffurfio â chyfarwyddiadau'r Llywodraeth ar ymbellhau cymdeithasol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Profedigaeth, y Cynghorydd Michael Michael: “Nid oedd cau’r safleoedd hyn yn benderfyniad hawdd i ni, ond yn ystod yr argyfwng presennol, rhaid i ddiogelwch y cyhoedd a chyfyngu lledaeniad COVID-19 fod y flaenoriaeth gyntaf.
“Yn anffodus, mae nifer yr ymwelwyr sydd wedi bod yn anarferol o uchel y penwythnos hwn ar y cyd a’r diffyg ymbellhau cymdeithasol yn golygu bod rhaid i ni wneud yr hyn y mae llawer o awdurdodau mewn ardaloedd eraill eisoes wedi’i wneud - cyfyngu mynediad.
O 2 Ebrill bydd gatiau Mynwent Cathays, Mynwent y Gorllewin a Mynwent Pantmawr wedi eu cloi drwy’r amser, gyda mynediad cyfyngedig, am uchafswm o ddeg aelod teulu agos, dim ond pan gynhelir angladdau a chladdedigaethau ar y safle.
Bydd mynediad cyfyngedig i Fynwent ac Amlosgfa Draenen Pen-y-graig hefyd. Yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru bydd yr Amlosgfa ei hun ar gau i’r cyhoedd ehangach, ac eithrio i uchafswm o 10 aelod teulu agos yn mynychu angladdau a chladdedigaethau. Ni chaniateir mynediad i’r cyhoedd i ardaloedd eraill y safle, megis y gerddi, y cofebion, neu’r Llyfr Coffa.
Ychwanegodd y Cynghorydd Michael: “Rydym yn deall y bydd hyn yn anodd i rai pobl, er enghraifft os na allant ymweld â pherthynas ar ben-blwydd, ac rydym yn cydymdeimlo gyda hyn, ond mae hi’n adeg heriol ac yn y pen draw mae rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni i gadw pobl yn ddiogel.”
2️ Marchnad Caerdydd
Mae newidiadau wedi’u cyflwyno ym Marchnad Caerdydd i sicrhau y gall masnachwyr hanfodol barhau i gynnig cynnyrch ffres i gwsmeriaid ledled y ddinas yn ystod yr achosion o COVID19.
Mae'r oriau masnachu wedi'u gostwng i 8am -1.30pm gyda'r fynedfa a'r allanfa drwy Heol Eglwys Fair yn unig, er mwyn i dîm y farchnad allu rheoli nifer y cwsmeriaid sy'n dod i mewn i'r adeilad a sicrhau system ciwio ddiogel.
Y masnachwyr sydd ar agor yw:
🍤 E Aston (Fishmongers) Limited
Mae Ashton's, sydd wedi bod yn rhan o Farchnad Caerdydd ers ei hagor yn 1891, yn cynnig gwasanaeth cownter ffres a danfoniadau am ddim ledled y ddinas. Ashton’s yw gwerthwyr pysgod annibynnol mwyaf Cymru, ac mae eu gwerthwyr pysgod medrus yn gallu cynnig y dewis gorau a mwyaf eang o bysgod i'w gwsmeriaid. Ffoniwch eu llinell archebu ar 029 2022 9201 i gael danfoniad am ddim.
🥓 🍖 🍗 JT Morgan Butchers
Mae JT Morgan Butchers, a sefydlwyd yn 1861, yn fusnes teuluol sydd wedi cael canmoliaeth gan bobl fel Rick Stein, Raymond Blanc ac Angela Gray. Maent yn darparu amrywiaeth o gigoedd o safon uchel, gan gynnwys cig oen morfa heli. Cysylltwch â llinell archebu JT Morgan ar 029 2038 8434 i holi am ddanfoniadau.
🥓 🍖 🍗 K Blackmore & Sons Butchers
Mae gan Blackmore Butchers enw da am gynnig cigoedd o safon a thoriadau anarferol. Maent wedi bod yn rhan o'r farchnad ers blynyddoedd lawer ac mae ganddynt lawer o gwsmeriaid ffyddlon. O doriadau cig eidion o safon, i gig gafr a phen moch, mae cigyddion Blackmore yn cynnig gwasanaeth cigyddiaeth heb ei ail. Ffoniwch 029 2039 0401 i gael gwybodaeth am ddanfoniadau.
🍎 🥕 Sullivans Fruit & Veg
Mae Sullivans Fruit and Veg fusnes teuluol, annibynnol gyda mwy na 50 o flynyddoedd o brofiad. Mae Sullivans yn cynnig bocsys ffrwythau a llysiau ar ben eu harchebion arferol ac yn cynnig gwasanaeth danfon am ddim ar gyfer archebion dros £10. Maent hefyd yn cyflenwi llaeth, wyau a choed ar gyfer stofiau llosgi coed fel rhan o'u gwasanaeth danfoniadau. Archebwch ar-lein drwy http://orlo.uk/0CyoM