18/03/2026
DAVIES, GLANVILLE (Granny/Gran/Glan) - 10fed Mawrth 2026
Yn sydyn ond yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor. O 8 Morawelon, Pont Rhyd y Bont. Am 69 mlwydd oed.
Yn cael ei garu a'i golli'n fawr gan ei wraig annwyl Anwen, ei fab Guto, ei 2 wŷr Ralph a Caleb. Brawd annwyl iawn i Diane, Derwyn, Kelly, Karen, Shan, Cheryl Ann, Noella, Sion ac Eifion a'u teuluoedd. Ffrind da i lawer.
Angladd Ddydd Mercher 25ain Mawrth 2026. Gwasanaeth am 1:00yp yng Nghapel Salem (Capel Bach), Millbank, Caergybi ac wedyn ym Mynwent Sardis, Pont Rhyd y Bont.
Rhoddion yn lle blodau yn ddiolchgar tuag at Wales Ambulance Service Trust er côf am Glanville trwy law'r O.R. Jones & Co. (J.M. & M.L. Walsh), Iard Penrhyn, Ffordd Longford, Caergybi. Ffôn: 01407 762136