03/12/2022
Mae wedi bod yn fraint cael bod yn rhan o lawer o angladdau gwahanol yn y mis diwethaf. Dyna'r rhan gorau o'm swydd - cael parchu dymuniadau olaf yr ymadawedig, a chefnogi eu teuluoedd i drefnu ffarwel addas.
Weithiau, mae hyn yn cynnwys gwasanaeth fwy cywrain, fel yr un yn Yr Wyddgrug, ble ymgasglodd 150 i ganu, perfformio ac i glywed darlleniadau. Roedd yr Eisteddfod a cherddoriaeth yn ganolbwynt i fywyd Rhiannon, felly roedd y gwasanaeth yma yn addas i anrhydu ei bywyd. Cynlluniwyd hyn oll gan ei phlant.
Ar y llaw arall, weithiau mae angladdau wedi eu teilwra yn ddistaw ac yn breifat. Fel pan ddaru Vicky a Dean o amlosgfa Fae Colwyn wahodd y gŵr a oedd yn galaru i fod yn bresenol gyda’i wraig yn yr ystafell amlosgi am y tro olaf. Arwahan i’r sŵn cefndirol angenrheidiol, llwyddom i ddarganfod heddwch a distawrwydd mewn cyfnod mor bwysig. Diolch yn fawr i Vicky a Dean, am gynnig gymaint o gefnogaeth gydag gosgeiddrwydd mor deimladwy.
Yn ychwanegol, mis yma rwyf wedi cael y profiad o weld mab a oedd yn galaru, yn gofalu yn dyner am ei fam yn y dyddiau oedd yn arwain at ei hangladd yn y Goedwig ym Moduan. Eto, arwyddocaol a phersonol, ond distaw a phreifat iawn.
It has been an honour to be involved in some very bespoke funerals this last month. It's the best part of my job- honouring the wishes of the deceased and supporting the bereaved to tailor their farewell in the best way they see fit.
Sometimes that involves a more elaborate service like the one in Yr Wyddgrug, where 150 gathered to sing, perform and read, honouring Rhiannon and the life she lived, enriched by the Eisteddfod and music. It was all choreographed by the deceased's children.
But at other times a bespoke funeral is something very quiet and private like when Vicky and Dean from Colwyn Bay Crematorium invited the bereaved man to enter the cremator room to be present for that very final part of his wife's passing. It was so personal and aside from the necessary noise of the machinery, we found quiet and peace. Thank you so much Vicky and Dean, you offered so much support and with such grace.
I've also had the privilege this month to witness a bereaved son tenderly take care of his deceased mother at home on the days running up to her burial at The Eternal Forest Trust / Coedwig Boduan. Again, very bespoke, yet very small and very private.