Roberts & Owen

Roberts & Owen Cyfarwyddwyr angladdau annibynnol, teuluol. Independent family funeral directors

DIXON – SHEILA7 November, 2025. Suddenly yet peacefully, surrounded by her family at her home, Bro Dawel, Llanfaglan, ag...
14/11/2025

DIXON – SHEILA
7 November, 2025. Suddenly yet peacefully, surrounded by her family at her home, Bro Dawel, Llanfaglan, aged 84 years. Loving wife of the late Tommy Dixon and devoted mother of Tracey, Kim, John Paul and Donna, proud grandmother and great-grandmother of all her grandchildren and great-grandchildren, treasured daughter of the late John and Annie Lovell and cherished sister of Blodwen, Jean and Ann. Funeral on Friday, 28 November, 2025. Public service at the graveside at Llanfaglan Cemetery, Caernarfon at 2.00 p.m. Floral tributes gratefully accepted in memory of Sheila, or donations, if desired, towards local charities. Enquiries to Roberts & Owen, 15 Bangor Street, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.

JONES – MARGARET VERONICA (Veron)22 Hydref, 2025. Yn sydyn, ond eto’n dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac o 23 Rhes Sego...
13/11/2025

JONES – MARGARET VERONICA (Veron)
22 Hydref, 2025. Yn sydyn, ond eto’n dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac o 23 Rhes Segontiwm, Caernarfon, yn 83 mlwydd oed. Gwraig gariadus a ffyddlon Bryn a mam ofalus Marlene a’i gŵr Gwyndaf, Allen a’i wraig Moira a Ryan a’i wraig Tracey. Nain dyner Helen, Natalie, Nia, Gerwyn, Liam ac Elin, a hen-nain falch i 12 o or-wyrion a gor-wyresau. Chwaer annwyl David a Sheila, ffrind arbennig a chymydog triw, a bydd yn golled fawr i’w theulu a’i ffrindiau oll. Angladd brynhawn Mercher, 26 Tachwedd, 2025. Cynhelir gwasaneth i ddathlu ei bywyd yn yr Amlosgfa ym Mangor am hanner dydd. Blodau’r teulu’n unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Veron tuag at Gronfa Ward Ogwen, Ysbyty Gwynedd, Bangor. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.

22 October, 2025. Suddenly yet peacefully at Ysbyty Gwynedd, Bangor, and of 23 Segontium Terrace, Caernarfon, aged 83 years. Beloved and devoted wife of Bryn, and caring mother of Marlene and her husband Gwyndaf, Allen and his wife Moira, Ryan and his wife Tracey. Gentle grandmother of Helen, Natalie, Nia, Gerwyn, Liam and Elin, and proud great-grandmother of her 12 great-grandchildren. Dear sister of David and Sheila, also a true and loyal friend and neighbour who will be affectionately remembered and very sadly missed by all her family and friends. Funeral on Wednesday, 26 November, 2025. A service to celebrate her life will be held at Bangor Crematorium at 12.00 noon. Family flowers only, but donations in memory of Veron will be gratefully accepted towards Ogwen Ward Fund, Ysbyty Gwynedd, Bangor. Enquiries to Roberts & Owen, 15 Bangor Street, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.

BUTTERFIELD – SUSAN22 Hydref, 2025. Yn sydyn yn ei chartref, 2 Cartref, Pendalar, Caernarfon, yn 70 mlwydd oed. Mam gari...
13/11/2025

BUTTERFIELD – SUSAN
22 Hydref, 2025. Yn sydyn yn ei chartref, 2 Cartref, Pendalar, Caernarfon, yn 70 mlwydd oed. Mam gariadus Louise a’i phartner Ruth, modryb arbennig Wendy, a ffrind gorau Pat. Angladd brynhawn Iau, 27 Tachwedd, 2025. Cynhelir gwasaneth i ddathlu ei bywyd yn Amlosgfa Bangor am hanner dydd. Gofynnir yn garedig i alarwyr wisgo'n lliwgar. Blodau’r teulu’n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Susan i’w rhannu rhwng Bipolar UK ac Ymchwil Iechyd Meddwl UK. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.

22 October, 2025. Suddenly at her home, 2 Cartref, Pendalar, Caernarfon, aged 70 years. Loving mother of Louise and her partner Ruth, special aunt of Wendy, and best friend of Pat. Funeral on Thursday, 27 November, 2025. A celebration of her life will be held at Bangor Crematorium at 12.00 noon. It is kindly requested that mourners wear colourful clothing. Family flowers only, but donations in memory of Susan will be gratefully accepted and shared bewteen Bipolar UK and Mental Health Research UK. Enquiries to Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.

EDWARDS – WILLIAM ROWLAND (Wil)28ain Hydref, 2025. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac o Awelfry...
13/11/2025

EDWARDS – WILLIAM ROWLAND (Wil)
28ain Hydref, 2025. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac o Awelfryn, 18 Cae Berllan, Caernarfon, yn 93 mlwydd oed. Priod cariadus a ffyddlon Dilys a thad arbennig Lynne, Julie a Delyth; tad-yng-nghyfraith hoffus Iestyn, Dafydd a Gwynedd a thaid balch Stephen a’i wraig Jenni, Siôn a Jac. Hen-daid gofalus Mia, Sam a Johana, brawd tyner y diweddar Howie, brawd-yng-nghyfraith annwyl Helena, ewythr hwyliog a ffrind a chymydog triw. Bydd yn golled fawr i bawb oedd yn ei adnabod. Angladd brynhawn Mawrth, 2il Rhagfyr, 2025. Cynhelir gwasanaeth cyhoeddus i ddathlu ei fywyd yn Eglwys Llanbeblig, Caernarfon am 1.00 o’r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd yn y Fynwent Newydd. Blodau’r teulu’n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Wil i’w rhannu rhwng Ward Gogarth, Ysbyty Gwynedd, Bangor ac Ymchwil Cancr UK. Ymholiadau pellach i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.

28th October, 2025. Peacefully in the presence of his family at Ysbyty Gwynedd, Bangor, and of Awelfryn, 18 Cae Berllan, Caernarfon, aged 93 years. Loving and faithful husband of Dilys and devoted father of Lynne, Julie and Delyth; fond father-in-law of Iestyn, Dafydd and Gwynedd, and proud grandfather of Stephen and his wife Jenni, Siôn and Jac. Cherished great-grandfather of Mia, Sam and Johana and treasured brother of the late Howie. Dear brother-in-law of Helena, cheerful uncle and a true and loyal friend and neighbour whom will be affectionately remembered and very sadly missed. Funeral on Tuesday, 2nd December, 2025. A service to celebrate his life will be held at Llanbeblig Church, Caernarfon at 1.00 p.m. He will then be laid to rest at the New Cemetery. Family flowers only, but donations in memory of Wil will be gratefully accepted and shared between Gogarth Ward, Ysbyty Gwynedd, Bangor and Cancer Research UK. Enquiries to Roberts & Owen, 15 Bangor Street, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.

JONES – CERIDWEN22 October, 2025. Peacefully at  Plas Maesincla Residential Home, Caernarfon, and of Glan Aber, Y Fron, ...
13/11/2025

JONES – CERIDWEN
22 October, 2025. Peacefully at Plas Maesincla Residential Home, Caernarfon, and of Glan Aber, Y Fron, aged 105 years. Beloved wife of the late Griffith John Jones and devoted mother of Bryn and his wife Jacqueline. Loving grandmother (‘Nain’) of Christopher, Mark and his wife Claire and proud great-grandmother of Amelia, George, Anna and Catherine. Dear sister of Vera and the late Sel, Elsi, Olwen, Elfed and Orwig. A loyal aunt of all her nephews and nieces and a faithful neighbour of the community at Y Fron. Funeral on Friday, 21 November, 2025.
A service to celebrate her life will be held at Capel-y-groes, Pen-y-groes at 1.00 p.m. She will then be laid to rest at Carmel Cemetery. Family flowers only, but donations in memory of Ceri will be gratefully accepted towards the Plas Maesincla Amenities Fund. Enquiries to Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.

22 Hydref, 2025. Yn dawel yn Nghartref Preswyl Plas Maesincla, Caernarfon, gynt o Glan Aber, Y Fron, yn 105 mlwydd oed. Gwraig ofalus y diweddar Griffith John Jones a mam arbennig Bryn a’i wraig Jacqueline. Nain gariadus Christopher, Mark a’i wraig Claire a hen-nain falch Amelia, George, Anna a Catherine. Chwaer annwyl Vera a’r diweddar Sel, Elsi, Olwen, Elfed ac Orwig. Modryb ffyddlon i’w holl nithoedd a neiaint a chymydog triw i’r holl gymuned yn Y Fron. Angladd brynhawn Gwener, 21 Tachwedd, 2025. Cynhelir gwasanaeth i ddathlu ei bywyd yng Nghapel-y-groes, Pen-y-groes am 1.00 o’r gloch gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Carmel. Blodau’r teulu’n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Ceri tuag at Gronfa Mwynderau Plas Maesincla, Caernarfon. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.

Fôn - Anna3 Tachwedd, 2025. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Alltwen, ac o Ty'n Lôn, Rhoshirwaen. Priod cariadus...
12/11/2025

Fôn - Anna
3 Tachwedd, 2025. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Alltwen, ac o Ty'n Lôn, Rhoshirwaen. Priod cariadus Bryn, a mam arbennig Cadi a Siôn. Hefyd nanna falch, merch amhrisiadwy, chwaer ofalus, modryb a chyfaill triw. Cynhelir gwasanaeth i gofio amdani ac i ddathlu ei bywyd fore Mawrth, 18 Tachwedd, 2025, a hynny yn Neuadd Bentref Llanllyfni am 11.00 o'r gloch. Plis gwisgwch yn lliwgar.

Bydd y rhoddion a dderbynnir yn mynd yn ddiolchgar er cof am Anna tuag at waith Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd ac Ymchwil Canser Cymru.

Rydym yn annog bobl i ystyried parcio yn ofalus, gan fod llefydd yn brin ger y Neuadd. Bydd bysus gwennol yn rhedeg o'r safle bws ger Co-Op, Pen-y-groes o 9:30yb ymlaen, ble mae digon o lefydd parcio ar gael yn agos.

Ymholiadau pellach i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.

Mewn pryd ar gyfer Sul y Cofio, fe lwyddasom i osod y llechen goffa yn ôl yng Nghalfaria. Oddi tani mae cyfres o englyni...
08/11/2025

Mewn pryd ar gyfer Sul y Cofio, fe lwyddasom i osod y llechen goffa yn ôl yng Nghalfaria. Oddi tani mae cyfres o englynion o waith Gwilym R. Jones, Tal-y-sarn sy'n talu teyrnged i fechgyn yr ardal a drengodd yn y rhyfeloedd. Yn angof ni chânt fod.

Diolch yn fawr i hogia'r gweithdy - Rhys, Gary a Med am lanhau ac atgyweirio, i Gethin Fôn a Dafydd Sadlar am y gwaith o ail-osod heb anghofio Tomos o Momo Signs am roi'r pedwar englyn mor berffaith yn eu lle.

JONES - JOHN WATKIN29 Hydref, 2025.  Yn dawel yn ei gwsg, yng Nghartref Willow Hall, Caernarfon, ac o Bron Eifion, Y Fro...
07/11/2025

JONES - JOHN WATKIN
29 Hydref, 2025. Yn dawel yn ei gwsg, yng Nghartref Willow Hall, Caernarfon, ac o Bron Eifion, Y Fron, yn 98 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Mary a thad cariadus Elma, Magi, Rhian a'r diweddar Ann; tad-yng-nghyfraith Dave, Dafydd, Gareth a'r diweddar Gareth, taid a hen-daid balch ei wyrion a'i wyresau oll, brawd hoffus ei ddiweddar chwiorydd, ewythr hwyliog a ffrind triw i lawer. Bydd yn golled enfawr i'w deulu a'i ffrindiau. Angladd brynhawn Llun, 17 Tachwedd, 2025. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghanolfan Y Fron am 2.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Carmel. Blodau'r teulu agosaf yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano tuag at elusennau lleol. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.

MCDERMOTT – JOHN JOSEPH (Johnny Mac) Peacefully, in the presence of his family at Ysbyty Gwynedd, Bangor, and of 13 Uxbr...
07/11/2025

MCDERMOTT – JOHN JOSEPH (Johnny Mac)
Peacefully, in the presence of his family at Ysbyty Gwynedd, Bangor, and of 13 Uxbridge Square, Caernarfon, aged 76 years. Beloved husband of Sheenah and devoted father of Justin, Rachel and Bernadette. Caring grandfather of Shannon, Cian, Dillon, Hari and Finnley, and proud great-grandfather of Reya ‘bach’. Treasured brother of Anthony, Theresa, Margaret and the late May and Noel. A dear uncle and cousin who will be affectionately remembered and very sadly missed by all his family and many friends. Funeral on Friday, 14 November, 2025. A service to celebrate his life will be held at The Church of Saints David and Helen, Twthill, Caernarfon at 12.30 p.m. He will then be laid to rest at Llanbeblig Cemetery. Floral tributes in memory of Johnny will be gratefully accepted, or donations, if desired, towards local charities. Enquiries to Roberts & Owen, 15 Bangor Street, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.

Ni fydd Dyfrig Topper byth yn bell oddi wrthym.
06/11/2025

Ni fydd Dyfrig Topper byth yn bell oddi wrthym.

A dyma gychwyn y broses o 'sgrifennu'r englynion, y cerddi a'r caneuon hynny o waith pobl y dyffryn hwn ar furiau Calfar...
31/10/2025

A dyma gychwyn y broses o 'sgrifennu'r englynion, y cerddi a'r caneuon hynny o waith pobl y dyffryn hwn ar furiau Calfaria. Dyma englyn hyfryd a gyfansodd Karen Owen ar ein cyfer. Bydd llawer mwy yn dilyn. Diolch i Tomos o Momo Signs am ei waith diflino. Diolch yn fawr hefyd i Karen.

'Mae lleisiau'r gwrthwynebwyr
Yn atsain drwy y tir,
Mae popeth yn y fantol
A'r 'sgrifen ar y mur.
Paid gofyn be' 'di'r brid-werth
A'r carcharor wedi ffoi,
Moesoldeb dy gyfundrefn
Yw'r elw ma' nhw'n rhoi.'
Geraint Jarman.

EVANS - MARY.  20 Hydref, 2025Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac o Gartref Preswyl Marbryn, Cae...
31/10/2025

EVANS - MARY. 20 Hydref, 2025
Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac o Gartref Preswyl Marbryn, Caernarfon, (gynt o 9 Lôn Cefn Du, Caernarfon) yn 85 mlwydd oed. Mam a mam-yng-nghyfraith gariadus Vernon ac Olwen, nain falch Dylan, Ffion a Glyn, a modryb annwyl Jennifer. Angladd brynhawn Mawrth, 25 Tachwedd, 2025. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am hanner dydd. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Mary tuag at Freshfields Animal Rescue (Nebo). Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.

20 October, 2025. Peacefully, in the presence of her family at Ysbyty Gwynedd, Bangor and of Marbryn Residential Home Caernarfon, (late of 9 Lôn Cefn Du, Caernarfon) aged 85 years. Beloved mother and mother-in-law of Vernon and Olwen, proud grandmother of Dylan, Ffion and Glyn, and dear aunt of Jennifer. Funeral on Tuesday, 25 November, 2025. Public service at Bangor Crematorium at 12.00 noon. Family flowers only, but donations in memory of Mary will be gratefully accepted towards Freshfields Animal Rescue (Nebo). Enquiries to Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.

Address

Birmingham House, 28 Stryd Fawr
Pen-Y-Groes
LL546PL

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Roberts & Owen posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Practice

Send a message to Roberts & Owen:

Share

Share on Facebook Share on Twitter Share on LinkedIn
Share on Pinterest Share on Reddit Share via Email
Share on WhatsApp Share on Instagram Share on Telegram