19/10/2025
Wythnos Genedlaethol Magu Plant 2025: Gadewch i ni “Rianta’n Llesol” gyda’n
Gilydd
Dydd Llun 20 – Dydd Gwener 24ain Hydref 2025
Am yr ymgyrch
Bydd Cyswllt Rhieni Cymru yn ymuno â theuluoedd ledled y wlad i ddathlu Wythnos
Genedlaethol Magu Plant 2025, a gynhelir o ddydd Llun 20fed i ddydd Gwener 24ain
Hydref.
Mae thema eleni, “Rhianta Llesol”, yn tynnu sylw at bwysigrwydd cefnogi rhieni i rianta’n
llesol gan hefyd gydnabod pwysigrwydd hunanofal a'u lles eu hunain.
Beth yw Wythnos Genedlaethol Magu Plant?
Mae Wythnos Genedlaethol Magu Plant yn dathlu, yn cefnogi ac yn codi ymwybyddiaeth
o'r rôl hanfodol y mae rhieni a gofalwyr yn ei chwarae wrth siapio bywydau plant.
Drwy gydol yr wythnos, bydd Cyswllt Rhieni Cymru yn:
Amlygu'r heriau sy'n wynebu rhieni
Mwyhau lleisiau rhieni
Hyrwyddo mynediad at gefnogaeth, cyngor ac adnoddau i deuluoedd.
Mae'r wythnos hon yn gyfle i galonogi rhieni, hybu lles plant, a phwysleisio pwysigrwydd
atal, ymyrraeth gynnar a chefnogaeth i deuluoedd.
Cyswllt Rhieni Cymru
Dan arweiniad Plant yng Nghymru a chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae Cyswllt Rhieni
Cymru yn rhoi llais i rieni a gofalwyr ledled Cymru wrth lunio'r polisïau a'r gwasanaethau
sy'n eƯeithio ar deuluoedd.
Mae rhieni a gofalwyr wedi dweud wrthym eu bod nhw eisiau:
Teimlo bod eu profiadau bywyd yn cael eu gwerthfawrogi
Bod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau yn gynnar, nid fel ymarfer ticio
blychau
Derbyn adborth ar sut mae eu mewnbwn yn cael ei ddefnyddio
Drwy wrando ar rieni a gofalwyr, gallwn helpu i greu gwasanaethau o ansawdd uchel
sy'n cryfhau teuluoedd ac yn sicrhau bod hawliau plant yn cael eu parchu a'u cyflawni.
Adnoddau i rieni a gofalwyr.
Dewch o hyd i awgrymiadau a chymorth ymarferol i amddiƯyn a gwella eich lles
meddyliol yn https://hapus.cymru/lles-meddyliol/Ưyrdd-o-wella-lles/
Os ydych chi'n chwilio am gyngor ac arweiniad ar gadw'ch plant yn ddiogel ar-lein a
rheoli defnydd sgrin, ewch i https://www.llyw.cymru/magu-plant-rhowch-amseriddo/plant-8-12-oed/we-ar-cyfryngau-cymdeithasol am gymorth ac adnoddau
dibynadwy.
Darganfyddwch ble i gael mynediad at gymorth iechyd meddwl yn agos atoch chi yn
https://www.mind.org.uk/about-us/local-minds/
Dysgwch fwy am hawliau plant a sut y gallwch eu cefnogi yn ###
Ewch i
https://www.childreninwales.org.uk/cy/gweithwyr_profesiynol/ein_gwaith/Cymorth-iDeuluoedd-a-Rhianta/Cyswllt-Rhieni-Cymru/Hwb-Cyswllt-Rhieni-Cymru/Rhieni-ahawliau-plant/ am wybodaeth ac adnoddau dibynadwy i'ch helpu i reoli cyllid eich teulu
yn hyderus.
Ewch i https://www.llyw.cymru/magu-plant-rhowch-amser-iddo/cyllideb-y-teulu am
wybodaeth ac adnoddau dibynadwy i'ch helpu i reoli cyllid eich teulu yn hyderus.
EnghreiƯtiau o Bostiadau Cymdeithasol i'w defnyddio gyda delweddaeth briodol.
Tags for all: and
1. Thema – Lles rhieni
Wythnos Genedlaethol Magu Plant 2025
Gall rhianta fod yn werth chweil, ond dydy e ddim bob amser yn hawdd.
Mae pawb yn cael cyfnodau anodd, ac mae hynny'n gwbl normal. Gofalu am eich lles
eich hun yw un o'r pethau gorau y gallwch chi ei wneud i'ch teulu.
Dewch o hyd i awgrymiadau a chefnogaeth ymarferol i amddiƯyn a gwella eich lles
meddyliol yma https://hapus.cymru/lles-meddyliol/Ưyrdd-o-wella-lles/
Gadewch i ni ofalu amdanom ni ein hunain, fel y gallwn fod yno i'n plant.
2. Thema – Cyfryngau Cymdeithasol ac amser sgrin
Wythnos Genedlaethol Magu Plant 2025
Gall rheoli amser sgrin plant fod yn her mewn byd lle mae dyfeisiau (neu dechnoleg) yn
rhan o fywyd bob dydd.
O ddiogelwch ar-lein i osod Ưiniau iach, gall rheoli dyfeisiau ym mywyd teuluol fod yn
dasg anodd.
Os ydych chi'n chwilio am gyngor ac arweiniad ar gadw'ch plant yn ddiogel ar-lein a
rheoli defnydd sgriniau, ewch i https://www.llyw.cymru/magu-plant-rhowch-amseriddo/plant-8-12-oed/we-ar-cyfryngau-cymdeithasol am gefnogaeth ac adnoddau
dibynadwy.
3. Thema – Cefnogaeth Iechyd Meddwl
Wythnos Genedlaethol Magu Plant 2025
Mae rhieni ledled Cymru wedi dweud wrthym fod angen mwy o gefnogaeth iechyd
meddwl ar eu plant. Os ydych chi'n teimlo'r un peth, dydych chi ddim ar eich pen eich
hun.
P'un a ydych chi'n chwilio am wasanaethau lleol, adnoddau, neu rywun i siarad â nhw,
mae cymorth ar gael.
Gallwch ddarganfod ble i gael mynediad at gymorth iechyd meddwl yn eich ardal chi
yma https://www.mind.org.uk/about-us/local-minds/
Oherwydd mae pob plentyn yn haeddu teimlo ei fod yn cael ei gefnogi.
4. Thema - Cymorth Ariannol
Wythnos Genedlaethol Magu Plant 2025
Mae bod yn rhiant yn brofiad gwobrwyol iawn, ond gall hefyd ddod â phwysau ariannol,
yn enwedig pan fydd costau'n parhau i godi. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun os
ydych chi'n ei chael hi'n anodd cadw i fyny â hanfodion bob dydd.
Mae pob teulu yn haeddu sefydlogrwydd a chefnogaeth. P'un a oes angen awgrymiadau
cyllidebu arnoch chi, help i reoli costau’r cartref, neu gyngor ar ble i ddod o hyd i
gymorth ariannol, mae arweiniad ar gael.
Ewch i https://www.llyw.cymru/magu-plant-rhowch-amser-iddo/cyllideb-y-teulu am
wybodaeth ac adnoddau dibynadwy i'ch helpu i reoli cyllid eich teulu yn hyderus.
Cysylltiad:
Fatiha Ali | Swyddog Datblygu, Cyswllt Rhieni Cymru
E: parentsconnect@childreninwales.org.uk
Mae’n rhaid i ni berthyn i ni’n hunain gymaint ag y mae angen i ni berthyn i eraill. Os oes angen i ni fradychu ein hunain i deimlo ein bod yn perthyn, nid perthyn yw hynny mewn gwirionedd. Nid mynnu eich bod yn newid y mae perthyn go iawn, ond gofyn i chi fod yn driw i chi eich hun!